Blog Bio Fideos Lluniau/pics Discography Gigs
Sign Up

Gwyddgig 2026

Lo-fi Jones

Town Centre, Yr Wyddgrug

Sat, Jun 13, 2026 10:00 AM

Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod ein gŵyl gymunedol Gymraeg yn dychwelyd i’r Wyddgrug eto eleni penwythnos y 12fed-13eg o Fehefin!

Bydd gwledd o weithgareddau a pherfformiadau amrywiol yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y dref. Does dim dwywaith y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Yn newydd eleni bydd agoriad arbennig i’r ŵyl gyda gig cymunedol AM DDIM i’r teulu oll yn Ysgol Bryn Coch ar y nos Wener. Mae’r gig hwn wedi cael ei drefnu gyda chymorth criw o ddisgyblion Ysgol Maes Garmon fel rhan o brosiect ‘Y Sîn ar y Ffin’ ac dan ni’n edrych ‘mlaen i groesawu’r bandiau hynod dalentog Cordia a Dadleoli i ddechrau’r dathliadau.

Bydd diwrnod llawn hwyl a sbri yn eich disgwyl ar y dydd Sadwrn hefyd: o sesiynau crefft gyda Dwylo Blêr, i sesiynau i’r plant lleiaf gyda Sensori Sara ac Elaine o Cymraeg i Blant, i hwyl gyda’r Urdd i blant hyn, i sesiwn clocsio gydag Angharad Harrop a mwy. Ar Lwyfan Daniel Owen ac ar hyd a lled y dref bydd perfformiadau cyfareddol gan ysgolion lleol, Côr y Pentan, Osian Powell Jones a’r bandiau gwerin Elin a Carys a Lo-Fi Jones.

Line Up

Lo-fi Jones
Share Tweet Add
Music Player

Facebook feed
Follow
Gigs
  1. June 5
    Rowen Tŷ Gwyn
  2. June 12
    Machynlleth Sploj
  3. June 13
    Yr Wyddgrug Town Centre

By signing up you agree to receive news and offers from Lo-fi Jones. You can unsubscribe at any time. For more details see the privacy policy.